Beth sydd ymlaen

Friday 28th April 22:30
£8.00
Tocynnau
Brian Gittins
Don't Feed the Monkey Man (Work in Progress)

Mae Brian Gittins, cymeriad David Earl, yn brat llwyr, ac yn ôl y Sussex Argus, ‘The World’s Worst Comedian’. Fodd bynnag, mae Brian yn gwrthod derbyn hyn, ac mae nôl gyda sioe fyw (wedi’i noddi gan Rampŵ - siampŵ i hyrddod). Mae’n addo dawnsio, canu a jôcs cnoc cnoc am hen fenyw o’r enw Joan McEnroe (swnio fel John McEnroe). Yn ogystal, bydd secsiwn i aelodau rhwystredig y gynulleidfa ar ddiwedd y noson o’r enw ‘Heckle Gittins’. Felly, os y’ch chi’n mwynhau gweld dyn 42 oed yn dawnsio fel twpsyn, dewch i weld Brian wedi’i ailfywiogi cyn iddo fynd i’r gwely’n poeni am berfformio.

David Earl yw seren Derek (Channel 4), Gittins (Channel 4), Cumbo (Channel 4), Extras (BBC), seren a chyd-awdur Rovers (Sky 1). 

Enwebai Chortle Award Character Act 2013 / 2014 

‘One of the best comedy characters of the decade.’ Ricky Gervais 

‘A true original, and breathtakingly funny with it’ The Guardian 

‘Very funny and horrifically distressing’ The Independent

60 munud

16+

Share on Facebook Share on Twitter Nôl i Restr