Music

Cerddoriaeth

Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth yn falch iawn i groesawu ein ffrindiau da yn Fence Records sydd wedi trefnu'r rhaglen gerddoriaeth nosweithiol ar lawntiau'r Plas. Maent wedi rhoi 6 band a cherddorion anhygoel at ei gilydd i'ch diddanu dros y penwythnos, a gorau oll ... mae'r cyfan am ddim! Felly mynnwch ddiod a dewch i fwynhau cerddoriaeth gwych gennym.

Mae Fence Records yn label record indie micro wedi'i leoli yn Fife, yr Alban, a sefydlwyd gan Kenny Anderson (King Creosote) ac a redir gan Johnny Lynch (The Pictish Trail). Mae Fence hefyd yn gyfrifol am wyliau enwog yr Alban, Home Game, Away Game ac yn fwyaf diweddar Gnome Game .

 

Nos Wener

8pm - Kid Canaveral

Mae Kid Canaveral yn grŵp pop amgen yng Nghaeredin, a phrif act indiepop roster Fence Records. Kid Canaveral yw David MacGregor (gitarau a llais), Kate Lazda (gitarau a llais), Rose McConnachie (gitar fas a llais) a Scott McMaster (drymiau).

9:30pm - The Pictish Trail

Mae Johnny Lynch yn gerddor o'r Alban sy'n perfformio o dan y ffugenw The Pictish Trail. Mae ei albwm newydd, Secret Soundz Vol. 2 yn gymysgedd amryliw o electroneg DIY, gwerin gwyrgam a pop seicadelig.

 

Nos Sadwrn

9:30pm - Rozi Plain

Ganwyd Rozi Plain yn Rosalind Leyden, yng ngwyrddni Winchester. Ers symud i Fryste, mae hi wedi bod yn gweithio ar y llongau sy'n dod i mewn ac allan o'r ddinas, ar hyd yr Avon, gan greu ei cherddoriaeth brydferth gyfarwydd ei hun sy'n cyfleu bywyd yn llifo heibio'n araf.

11pm - Sparrow and the Workshop

Mae Sparrow and the Workshop yn grŵp tri darn yn Glasgow sy'n cynnwys Jill O'Sullivan a anwyd yn Belfast ac a fagwyd yn Chicago, y Cymro Nick Packer a'r Albanwr Gregor Donaldson.

 

Nos Sul

7:45pm - R.Seiliog

R.Seiliog yw Robin Edwards, cerddor/cynhyrchydd yn gweithredu yng Nghaerdydd, Cymru. Cafodd ei eni yn seler siop oriadurwr ym Mheniel, Gogledd Cymru yn 1985. Cafodd y profiad cynnar hwn gyda rhythmau trawsacennog amseryddion gwahanol di-ri effaith barhaol ar y ffordd y mae'n clywed y byd ac, yn wir, yn cyfansoddi.

11:00pm Y Niwl

Mae'r Niwl yn fand roc offerynnol a ffurfiodd yng Nghogledd Cymru yn 2009. Yn wreiddiol yn fand roc syrffio, mae eu harddull wedi symud ymlaen i gynnwys ystod ehangach o ddylanwadau, er eu bod wedi cadw'r agwedd offerynnol. Y Niwl yw Alun Evans (gitâr), Siôn Glyn (bas), Gruff ab Arwel (organ/gitâr) a Llyr Pari (drymiau).

 

DJs

Mae hoff DJs/bobl Gŵyl Gomedi Machynlleth Jonny Bull ac Andy Dudfield hefyd yn dychwelyd i lenwi eich clustiau gydag alawon priodol ar adegau priodol o'r dydd.