Mwy gan Little Wander
22nd Tachwedd 2017
2018
Y gwersyll ar agor o 10am ddydd Gwener 4 Mai 2018.
Archebwch eich lle
Chwilio am le i aros yng nghanol y dre? Dyma’r lle i chi!
Mae gwersyll swyddogol yr ŵyl tu ôl i’r Co-Op, munudau o’r holl leoliadau, lawntiau’r Plas, a’r swyddfa docynnau.
Yn ogystal â chae gwastad hyfryd gyda golygfa wych, rydym yn cynnig yr holl bethau ychwanegol i’ch gwneud mor gyfforddus â phosib.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
Diogelwch / derbynfa 24 awr
Cawodydd twym preifat
Toiledau crand sy’n fflysio
Dŵr yfed
Cyfleusterau gwefru ffôn/tabled am ddim
Stondin coffi a byrbrydau’r gwersyll
Parcio am ddim ar y safle
Mannau sbwriel/ailgylchu
Lleoliad canolog rai munudau o bob sioe
Awyrgylch gwych
Hyn i gyd am £35 yr oedolyn am y penwythnos cyfan. Does dim cyfyngiad ar faint y babell – ry’ch chi ond yn talu am bob person.
Mae croeso i bobl dan 18 oed ar y safle, ond rhaid iddynt wersylla gydag oedolyn cyfrifol am bris gostyngedig o £15. Plant dan 5 oed am ddim.
Faniau Gwersylla, Carafanau a Phebyll Ôl-gerbyd
Mae lle i gerbydau llety ar gael yn y gwersyll. Mae nhw’n costio £90 y cerbyd, ac yn cynnwys 2 fand llawes gwersyll (werth £70).
(Bydd rhaid i unrhyw bobl ychwanegol sy’n aros yn y cerbyd brynu tocynnau gwersyll ychwanegol am £35 y pen.)
Does dim trydan na dŵr ar gael i’w cysylltu, ond mae’r cae’n cynnwys lle am adlen/gasebo – sichrewch eich bod yn gyfforddus!
Rhannu
7 blwyddyn yn ôl