Sut mae cyrraedd yno?
Mae hynny’n dibynnu ar ble byddwch chi’n dechrau, ond mwy na thebyg mae car neu drên fydd yr opsiynau mwyaf synhwyrol. Os nag oes syniad gennych ble mae Machynlleth, edrychwch yma.
Gan fod Machynlleth ar linell drên uniongyrchol o Birmingham, mae’r trên yn ffordd gwych o gyrraedd yr ŵyl, gyda golygfeydd prydferth ar y ffordd. Mae’r orsaf o fewn 5 munud o gerdded i ganol y dref a chanolbwynt yr ŵyl.
Dyma syniad o hyd teithiau trenau:
Llundain – 4 awr
Manceinion – 3 awr 15 munud
Birmingham – 2 awr 20 munud
Aberystwyth – 35 munud
Os byddwch yn teithio mewn car, ystyriwch rannu car. Drwy deithio mewn car llawn, mae allyriadau carbon ymwelwyr yn debyg i fynd ar drên, ac mae’n ffordd gwych o arbed arian.
Gyda Go Car Share, gallwch weld os yw eich ffrindiau’n dod i’r ŵyl, dod o hyd i bobl tebyg i chi i deithio gyda nhw, a bwrw golwg ar bobl cyn cytuno i rannu. Felly os byddwch yn gyrru, neu’n chwilio am lifft, cliciwch yma a rhannwch y daith!
Dyma syniad o amserau teithio drwy gefn gwlad prydferth Cymru o leoliadau amrywiol:
Llundain – 4 awr 30 munud
Manceinion – 2 awr 30 munud
Birmingham – 2 awr 15 munud
Aberystwyth – 25 munud
Cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau drwy gynlluniwr taith yr AA.