Friday 3 May - Sunday 5 May 2024

Hoffech chi fod yn rhan o’r teulu sy’n caniatáu i’r holl beth ddigwydd? Heb ein gwirfoddolwyr hyfryd, llawen a phroffesiynol, byddai’r penwythnos cyfeillgar ac arbennig yn amhosib, ac ry’n ni’n chwilio am bobl newydd i ymuno â’r tîm!

Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth bob amser yn chwilio am unigolion cyffrous a brwdfrydig i wirfoddoli yn y digwyddiad, a dyma’ch cyfle i fod yn rhan o dîm ysbrydoledig a bywiog, ac i ennill profiad gwerthfawr mewn amgylchedd proffesiynol llawn cefnogaeth.

Mae’r cyfleodd i wirfoddoli’n cynnwys stiwardio, y swyddfa docynnau, technegwyr a hyrwyddo. Mae cynnal digwyddiad mor fawr yn her, ond mae’n rhoi boddhad mawr hefyd.

Felly os yw’r sgiliau a’r amser gennych i’w cynnig i’r ŵyl, lawrlwythwch a darllenwch y canllawiau a chwblhewch y ffurflen gais ar-lein (yn dod yn fuan). Os oes gennych gwestiynau, ebostiwch Helen, Rheolwraig y Gwirfoddolwyr (helen@machcomedyfest.co.uk), am unrhyw agwedd ar wirfoddoli yn yr ŵyl.

Edrychwn ymlaen i glywed gennych!