Friday 3 May - Sunday 5 May 2024

Rwy’n dod i’r ŵyl

Os hoffech wybodaeth nad ydyw ar y wefan, gallwch gysylltu â ni ar Twitter neu anfon neges Facebook atom, a bydd rhywun yn cysylltu nôl cyn gynted â phosib.

Os yw’r cwestiwn am docynnau, ebositwch dîm y swyddfa docynnau – boxoffice@machcomedyfest.co.uk

 

Rwy’n fasnachwr

Mae rhai lleoedd ar gael i stondinau bwyd yn yr ŵyl.  Os hoffech ofyn am fasnachu gyda ni, ebostiwch steve@machcomedyfest.co.uk

 

Rwyn fusnes, a hoffwn …

… wybod am gyfleodd i noddi

Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth yn cynnig lleoliad cyffrous a difyr o safon i gysylltu â’n cynulleidfa o dros 7,000 o bobl a chynulleidfa arlein llawer, llawer mwy …

Ry’n ni’n ymfalchïo yn ein hymagwedd hyblyg a chydweithredol at ein perthnasoedd gweithio i greu pecynnau nawdd pwrpasol a chyffrous.

Am fwy o fanylion, gan gynnwys ffeithiau a ffigurau allweddol am yr ŵyl, e-bostiwch henry@machcomedyfest.co.uk

… hysbysebu yn y rhaglen

Caiff 9,000 o gopïau o raglen yr ŵyl eu dosbarthu cyn yr ŵyl o amgylch Cymru, mewn dinasoedd allweddol yn y DU, ac i’n cynulleidfa ar benwythnos yr ŵyl.

Ry’n ni’n cynnig chwarter a hanner tudalen a thudalennau llawn i hysbysebu am brisiau cystadleuol iawn. Ry’n ni hefyd yn helpu gyda dylunio’r hysbyseb os oes angen.

Am fwy o fanylion, gan gynnwys ein cerdyn cyfraddau, e-bostiwch henry@machcomedyfest.co.uk

 

Hoffwn wirfoddoli

Hoffech chi fod yn rhan o’r teulu sy’n caniatáu i’r holl beth ddigwydd? Heb ein gwirfoddolwyr hyfryd, llawen a phroffesiynol, byddai’r penwythnos cyfeillgar ac arbennig yn amhosib, ac ry’n ni’n chwilio am bobl newydd i ymuno â’r tîm! Clicwch yma am fwy o manylion.

Rwy’n berfformiwr

Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth yn ŵyl gomedi fach wedi’i churadu, yn wahanol i rai o’r gwyliau enfawr mwy drws-agored yn y DU (mae’r ddau fath o ŵyl gomedi yn wych am resymau gwahanol). Ry’n ni’n dewis y sioeau o’r pethau ry’n ni wedi’u gweld neu’n parhau i gefnogi artistiaid ry’n ni’n hoffi gweithio gyda nhw. Ry’n ni’n dîm bach, ac rwy’n siŵr bod trysorau ry’n ni’n eu methu bob blwyddyn o ganlyniad. Does dim proses gais i berfformio ym Machynlleth, a’r ffordd orau i ni (Little Wander) eich gweld yw i berfformio yn un o’r gigiau niferus ry’n ni’n eu rhaglennu yng Nghymru drwy’r flwyddyn. I fynegi diddordeb yn y rhain, e-bostiwch sam@littlewander.co.uk.

 

Rwy’n newyddiadurwr

Os hoffech siarad â ni am yr ŵyl, e-bostiwch press@machcomedyfest.co.uk, a bydd rhywun yn cysylltu nôl â chi. Diolch am eich diddordeb. Fel digwyddiad, ry’n ni’n gwneud y rhan fwyaf o’n gwaith hyrwyddo drwy’n sianeli ein hunain yn uniongyrchol â’n cynulleidfa.