Clwb Carco


Sioe archif
Mae'r sioe hon o ŵyl blwyddyn flaenorol
Llond llaw o gomedïwyr Cymraeg yn diddanu eich plant am awr gyfan gyda Beth Jones yn ceisio cadw trefn. Bydd e’n llanast llwyr. A rhaid i chi aros gyda’ch plant achos does gan y comedïwyr ddim cymwysterau gofal plant swyddogol. Sori.
Wedi ei anelu at oedran 3 – 8 ond croeso i bob oed.
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gallwn eich gosod ar ein system swyddfa docynnau.
Cliciwch yma i ddarganfod a ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys i gael cerdyn Hynt neu cliciwch yma i wneud cais.