Friday 3 May - Sunday 5 May 2024

Dydd Sul 5th Mai, 2024

6:00 pm | 60 mins

£ 14

Ysgol Bro Hyddgen – Y Gampfa

16+

Sioe archif

Mae'r sioe hon o ŵyl blwyddyn flaenorol

Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno

Parti Priodas

gan Gruffudd Owen

Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha…

Ond pwy arall sy’ ar y rhestr westeion? Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd. Ond gyda hwnnw ar drothwy pennod newydd cyffrous yn ei fywyd, ydi dyfodol Lowri a’r fferm deuluol ar fin cael ei chwalu’n rhacs? Mae Idris yn hiraethu am ei hen ffrind gorau ac yn dychwelyd i Lŷn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond a fydd cyfrinachau’r gorffennol yn difetha diwrnod pawb?

Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y llynedd, ymunwch gyda ni am wledd o ddrama gomedi gan Gruffudd Owen wedi’i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly, ac yn serennu Mared Llywelyn a Mark Henry Davies.

Bydd hwn yn barti i’w gofio!

Capsiynau Cymraeg a Saesneg ar gael yn y perfformiad hwn

Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gallwn eich gosod ar ein system swyddfa docynnau.|

Cliciwch yma i ddarganfod a ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys i gael cerdyn Hynt neu cliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Adfer
Mae £1.50 o bris gwerthu’r tocyn yn mynd i Ŵyl Gomedi Machynlleth ar gyfer i ddatblygu a gwella’r digwyddiad.