Doethineb y Dorf


Lle ydi’r lle gwaethaf yng Ngymru? Pam, yn 2025, does na ddim ‘tribute band’ i Bryn Fon? Faint o weithiau ma Dafydd Iwan wedi dweud y geiriau “Yma o Hyd”?
Dim ond un ffordd o ddarganfod! Dewch i brofi gêm banel ryngweithiol newydd sbon ble fydd y cystadleuwyr angen tiwnio mewn i ddoethineb y dorf i ennill pwyntiau.
Gethin Evans a Chris Roberts fydd yn gosod yr her i gomedïwyr ac enwogion Cymru mewn awr o anrhefn llwyr.
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gallwn eich gosod ar ein system swyddfa docynnau.Cliciwch yma i ddarganfod a ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys i gael cerdyn Hynt neu cliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Adfer
Mae £2 o bris gwerthu’r tocyn yn mynd i Ŵyl Gomedi Machynlleth ar gyfer i ddatblygu a gwella’r digwyddiad.