Friday 2 May - Sunday 4 May 2025

Dydd Sul 4th Mai, 2025

8:00 pm | 60 mins

£ 8

16+

Cipolwg unigryw ar y byd gan y stand-yp o Sir Benfro, Steffan Evans. Yn falch o fod yn Gymro, mae Steffan yn gweld y gorau mae’r Cymry yn ei gyflwyno i sefyllfaoedd ac yn ffeindio’r peth doniol ym mhopeth. Dim fe yw’r Cymro chi eisiau ond fe yw’r Cymro sydd ei angen arnon ni.

Yn perfformio stand-yp ers deg mlynedd mae’r perfformiwr o Eglwyswrw yn wyneb cyfarwydd yn y sin gomedi yng Nghymru.

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gallwn eich gosod ar ein system swyddfa docynnau. Cliciwch yma i ddarganfod a ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys i gael cerdyn Hynt neu cliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Adfer 

Mae £2 o bris gwerthu’r tocyn yn mynd i Ŵyl Gomedi Machynlleth ar gyfer i ddatblygu a gwella’r digwyddiad.