Ystafell Powys, Canolfan Owain Glyndŵr

Wrth gerdded lawr Heol Maengwyn o dŵr y cloc, bydd Canolfan Owain Glyndŵr ar y chwith i chi. Mae’n adeilad amlwg, o’r 15fed ganrif. Efallai bod llawer ohonyn nhw ym Machynlleth, sbo, ond mae plac arno. Ewch dan y bwa i’r prif iard. Ystafell Powys yw’r ystafell ar y llawr cyntaf. Oherwydd natur hanesyddol yr adeilad, does dim lifft yn anffodus.
Canolfan Owain Glyndŵr yw lleoliad swyddfa docynnau’r ŵyl, yr Ystafell Filiards, a’r ffordd i gyrraedd y Storfa hefyd.
Sioeau yn y lleoliad hwn
- / -