Yr Ŵyl
“A small but perfectly formed antidote to some of the more sprawling comedy festivals”
The Independent
“A welcome break from the norm... it boasts the kind of top-quality lineup that's beyond many of its rivals.”
The Guardian
Pan ddechreuon ni drafod dechrau Gŵyl Gomedi Machynlleth, y prif beth oedd creu rhywle i bobl ddod i gael hwyl, ac i ddianc rhag y byd – boed yn ymwelwyr, yn ddigrifwyr, neu’n aelodau tîm yr ŵyl.
Y diben oedd creu teimlad o arbrofi ac agosatrwydd gydag agwedd gwahanol. Ry’n ni’n teimlo’n angerddol dros gyffro gweld comedi byw mewn ystafelloedd bach, ac mae tref ysblennydd, brydferth a hudol Machynlleth yn cynnwys cyfoeth o fannau perfformio diddorol ac unigryw i wireddu hyn.
Yn bennaf, ry’n ni am i bobl chwerthin, i gael amser gwych, ac i gael croeso cynnes yng ngalon Cymru.
"One of the best festivals in the world"
Rhod Gilbert