Bwyd a Diod


Ry’n ni’n gweithio gyda rhai o’r cynhyrwchwyr gorau yng Nghymru a thu hwnt i ddod â’r bwydydd a’r diodydd gorau i’r ŵyl.
Mae’r Bar Beech ar lawntiau’r Plas yn cynnwys ein gŵyl gwrw 50 casgen a seidrau traddodiadol amrywiol, ynghyd â’r ddarpariaeth arferol o gynnrych drafft, gwinoiedd a gwirodydd. Mae bar coctels pwrpasol hefyd yn cyflwyno rhai o’r clasuron, os hoffech chi.
Mae bar llai i’w gael ar lawnt Canolfan Owain Glyndŵr, a bar poteli yn Arena Mach.
Mae nifer o dafarnau traddodiadol ardderchog yn y dref hefyd, sy’n croesawu ymwelwyr drwy’r penwythnos.

I sicrhau bod gennych ddigon o fwyd yn ystod yr ŵyl, mae ardal bwrpasol i fasnachwyr bwyd stryd yn y Plas, a mwy o stondinau ar lawnt Canolfan Owain Glyndŵr.
O bitsas crefftus i gyrris go iawn, o fyrgyrs gourmet i paella a tapas, mae digon i dynnu dŵr i’r dannedd ar gael i chi eu prynu rhwng sioeau.
Mae Machynlleth hefyd yn cynnwys nifer o gaffis, bwytai a chludfwyd i chi ddod o hyd i’ch ffefryn yn ystod yr ŵyl.