Sut le yw Machynlleth?
Tre farchnad hyfryd yng Nghanolbarth Cymru yw Machynlleth. Fel arfer, mae ganddi boblogaeth o 2,300, gyda llu o siopau lleol annibynnol, a siop Co-Op fwy i sicrhau bod yr hanfodion ar gael ar eich cyfer yn ystod yr ŵyl.
Ynghyd â’r rhain, mae casgliad o gaffis, tafarnau a bwytai lleol yn croesawu ymwelwyr drwy’r penwythnos.
Does dim clybiau nos yn y dre. Mae Big Top yr ŵyl ar lawnt y Plas ar agor tan 1am bob nos, ac mae gan o leiaf un o’r tafarnau drwydded estynedig i unrhyw un sy’n dymuno peint hwyrach fyth.
Mae’r ŵyl yn denu selogion comedi o bob rhan o’r DU. Gan ei bod yn dre fach, mae’n hawdd gwybod eich ffordd – hyd yn oed i ymwelwyr newydd! Bydd hi’n hawdd i chi ffeindio’ch sioeau, sydd oll o fewn 10 munud o’i gilydd.