Sioe archif
Mae'r sioe hon o ŵyl blwyddyn flaenorol
‘Dwi ‘di bod yn sgwennu stwff newydd ac mae’n amser i mi ei berfformio am y tro cyntaf. Deunydd hollol newydd, braidd yn amrwd, erioed wedi’ glywed o’r blaen ( heblaw gan y wraig bresennol ) felly byddwch yn garedig, gonest ac amyneddgar. Eich ymateb chi fydd yn penderfynnu beth fydd gweddill Cymru yn gael ei weld a’i glywed dros y misoedd nesa felly dim pwysa.
“He’s very Welsh” BBC Wales
“A self confessed separatist” The Daily Mail
“Dydi o ddim i mi sori” Y Wraig Bresennol
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gallwn eich gosod ar ein system swyddfa docynnau.
Cliciwch yma i ddarganfod a ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys i gael cerdyn Hynt neu cliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Adfer
Mae £1.50 o bris gwerthu’r tocyn yn mynd i Ŵyl Gomedi Machynlleth ar gyfer i ddatblygu a gwella’r digwyddiad.