Sut mae’n gweithio?
Mae’r ŵyl yn cynnwys cannoedd o sioeau ym Machynlleth rhwng 4 a 6 Mai 2018.
Mae nifer tocynnau pob sioe yn dibynnu ar faint yr ystafell, sy’n amrywio o 30 i 500 o seddi, ac mae pob un ohonynt o fewn 10 munud o gerdded i’w gilydd yng nghanol y dre. Byddwch chi ond yn prynu tocyn(nau) i’r sioe(au) ry’ch chi’n dymuno eu gweld, gan ganiatáu i chi weld cymaint neu gyn lleied â hoffech chi ar y penwythnos.
Mae sioeau’n gallu gwerthu pob tocyn, felly os oes sioe ry’ch chi’n awyddus iawn i’w gweld, mae’n well prynu tocynnau ymlaen llaw ar y wefan. Os byddai’n well gennych chi ddewis ar y penwythnos, mae swyddfa docynnau’r ŵyl yng Nghanolfan Owain Glyndŵr yn gwerthu tocynnau i’r holl sioeau sydd ar ôl.
Mae cyfyngiad oedran i nifer o’r sioeau â thocynnau, felly mae’n werth gwirio cyn prynu tocynnau i unrhyw un dan 18 oed. Mae sioeau arbennig i’r teulu, gan gynnwys perfformiadau i blant ifanc. Bydd y rhaglen lawn ar gael arlein o fis Ebrill 2018 ymlaen.
Fodd bynnag, mae digonedd yn digwydd yn y dre os ydych am ddod ar gyfer awyrgylch yr ŵyl …
Mae’r Beech Bar yn y babell fawr ar lawntiau’r Plas yn cynnwys rhaglen o gerddoriaeth am ddim drwy’r penwythnos (heb sôn am ein gŵyl gwrw 50 casgen anhygoel!).
Hefyd, mae perfformiadau am ddim yn y pafiliwn coetir, rhaglen ryngweithiol i’r teulu am ddim ym mhabell y plant, a digwyddiadau dros dro eraill drwy gydol y penwythnos.